Mae Play_Inc yn darparu clybiau ieuenctid arbenigol ar ddydd Sadwrn i bobl ifanc 5-18 oed sydd ag anghenion dysgu ychwanegol a/neu anableddau. Mae ein gweithwyr chwarae ymroddedig yn gweithio gyda'n gwirfoddolwyr gan roi cyfle i'r bobl ifanc wneud eu peth eu hunain, gan gynnig cyfle gwerthfawr i'n rhieni a'n gofalwyr wneud yr un peth.
Rydym yn deall yr amrywiaeth eang o heriau a wynebir gan ein rhiant-garfan ac mae'r ychydig oriau o orffwys ac ymlacio ar benwythnos yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i fywyd teulu.
Pob safle; Hwlffordd a Doc Penfro, garfan fawr o weithwyr chwarae gwirfoddol, gyda chymorth Cydgysylltwyr gwaith chwarae profiadol sy'n rheoli a chyflwyno pob sesiwn.
Mae Tots 2 Teens yn gynllun chwarae gwyliau arbenigol i bobl ifanc 5-18 oed sydd ag anghenion dysgu ychwanegol a/neu anableddau, ac mae'r ddarpariaeth hon wedi'i lleoli yn Ysgol Portfield yn Hwlffordd. Mae pob un o'n staff yn...