Royal Agricultural Benevolent Institution

Elusen amaethyddol yw RABI (Royal Agricultural Benevolent Institution) sy’n cefnogi teuluoedd yng Nghymru a Lloegr sydd naill ai’n ffermio, neu wedi ymddeol o’r byd amaeth, Rydym yn gallu helpu pan fo’r esgid fach yn gwasgu am nifer o resymau.
Sefydlwyd yr elusen yn 1860, a medrwn gynorthwyo ffermwyr a gweithwyr amaeth, dros dymor byr: er enghraifft yn dilyn salwch, damwain, profedigaeth, teulu'n chwalu, neu glefydau ar anifeiliaid. Gallwn, yn ogystal, gynnig cymorth hir dymor i bobl hŷn, pobl sydd wedi ymddeol o’r diwydiant amaeth, a phobl anabl o bob oed.

Mae’r elusen yn medru trefnu grantiau’n gyfrinachol i deuluoedd neu unigolion sy’n gysylltiedig â’r byd amaeth os ydy hi’n fain arnyn nhw.
Mae'r cymorth sydd ar gael yn cynnwys cyngor ar fudd-daliadau'r wladwriaeth, grantiau rheolaidd, neu daliadau brys. Gallwn helpu gyda biliau cyfleustodau, gan gynnwys olew gwresogi yn y gaeaf, a nifer o gostau eraill sy’n ymwneud â’r teulu a’r cartref. Gallwn hefyd dalu am offer arbenigol, newidiadau i'r cartref, nwyddau hanfodol cartref, a chostau teithio i'r ysbyty. Rydym yn asesu pob cais a dderbynnir gennym yn drylwyr. Os yw’r ymgeisydd yn gymwys i dderbyn cymorth, byddwn yn teilwra’r cymorth yn unol â’r angen. Rydym weithiau’n gallu cynorthwyo gyda ffioedd cartrefi gofal, a chostau cymorth-cartref pan fo angen.
Nid yw RABI ar unrhyw gyfrif yn talu biliau busnes y fferm, ond gallwn dalu am staff: er enghraifft, pan fydd rhywun yn methu â gweithio oherwydd salwch neu ddamwain. Medrwn dalu am hyfforddiant i alluogi pobl i ddatblygu sgiliau i gael gwaith oddi ar y fferm, er mwyn ychwanegu at incwm y fferm.
Mae gwasanaeth RABI yn gwbl gyfrinachol. Am resymau amlwg, mae’r bobl rydym yn eu helpu yn annhebygol o ddweud wrth eraill am y cymorth a gânt.
Mae RABI yn cynnig safle lles ar-lein ar gyfer ffermwyr. Mae dwy lwyfan lles, un ar gyfer bobl ifainc, ac un ar gyfer oedolion. Mae cwnsela ar-lein ar gael am ddim yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Mae RABI yn cynnig gwasanaeth cwnsela wyneb-i-wyneb a hyfforddiant Iechyd Meddwl.

Shaw House, 27 West Way, , OX2 0QH
0800 188 4444 http://www.rabi.org.uk

Elusen amaethyddol yw R.A.B.I (Royal Agricultural Benevolent Institution) sy’n cefnogi teuluoedd yng Nghymru a Lloegr sydd naill ai’n ffermio, neu wedi ymddeol o’r byd amaeth, Rydym yn gallu helpu pan fo’r esgid fach yn gwas...