Mae Ffocws Dioddefwyr De Cymru yn wasanaeth lleol a gaiff ei redeg gan yr elusen genedlaethol ac annibynnol, Cymorth i Ddioddefwyr. Rydym yn rhoi cymorth a chefnogaeth i unrhyw un yn Ne Cymru sydd wedi’i effeithio gan drosedd.
Nid ydym yn rhan o’r heddlu, y llysoedd nac unrhyw asiantaeth cyfiawnder troseddol arall. Mae ein gwasanaethau am ddim, yn gyfrinachol ac ar gael p’un a roddwyd gwybod am y drosedd ai peidio, a waeth pryd y digwyddodd. P’un a ydych wedi cael eich effeithio yn uniongyrchol gan drosedd, yn adnabod rhywun sydd wedi cael ei effeithio, neu os ydych wedi bod yn dyst i rywbeth, rydym yma i chi.
Mae ein staff a’n gwirfoddolwyr sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig, wedi’u lleoli yn eich ardal chi, a gallant gynnig cymorth a chefnogaeth ar unwaith, ac yn yr hirdymor, er mwyn eich galluogi i ymdopi ag effeithiau trosedd a dod drostynt.
Rydym yn deall bod profiad pawb yn wahanol. Mae’n bosibl y byddwch yn teimlo amrywiaeth o emosiynau, efallai y bydd gennych gwestiynau heb eu hateb neu efallai y byddwch yn teimlo eich bod wedi drysu ynglŷn â’r hyn fydd yn digwydd nesaf. Byddwn yn gweithio gyda chi i ddeall sut y gallwn eich helpu orau a byddwn yno i chi gyhyd ag y bydd ein hangen arnoch.
South Wales Victim Focus is a local service run by the national and independent charity, Victim Support. We provide help and support to anyone in South Wales affected by crime.
We are not part of the police, the courts or...