spacetocreate

Sefydlwyd spacetocreate yn 2007 gan Pip Lewis a Guy Norman i wella mynediad ac ehangu cyfranogiad yn y celfyddydau gweledol yn Sir Benfro, yn bennaf.

O dan arweiniad creadigol ei sylfaenwyr, mae spacetocreate yn cydweithio ag artistiaid a cherddorion, gwneuthurwyr ffilmiau a ffotograffwyr, dylunwyr ac animeiddwyr, athrawon, gweithwyr ieuenctid, penseiri a beirdd, i ddylunio, cyflwyno a chynhyrchu prosiectau penodol a rhaglenni tymor hwy, sy’n cyfrannu at les unigolion a chymunedau.

Dros y deng mlynedd diwethaf, rydym wedi creu enw da am brosiectau cyfranogol o ansawdd uchel a dychmygus sy’n cysylltu pobl o bob oed a gallu gyda’r celfyddydau gweledol. Rydym yn canolbwyntio ar weithio gyda phobl nad ydynt fel arfer yn cael cyfleoedd i gymryd rhan yn y Celfyddydau, gan gynnwys plant, pobl ifanc a grwpiau sy’n agored i niwed neu sy’n anodd eu cyrraedd yn y gymuned.

Mae ein gwaith yn dod â phobl at ei gilydd, ac yn annog cydraddoldeb a pherthyn trwy brofiad cyffredin o gyfranogiad yn ogystal â darparu cyfleoedd i roi cynnig ar brofiadau newydd, dysgu sgiliau newydd, archwilio’r broses greadigol a meithrin hyder a hunan-barch.

Mae Hwlffordd wedi darparu ffocws daearyddol cryf ar gyfer ein gwaith diweddar, trwy arweiniad creadigol Cydlifiad, partneriaeth gelfyddydol ac adfywio tair blynedd a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru trwy’r rhaglen Syniadau: Pobl: Lleoedd.

Mae ein gwaith diweddar arall yn cynnwys: Y Darlun Mawr Plas Llanelly – prosiect treftadaeth tair blynedd wedi’i ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri lle rydym yn gweithio gyda grwpiau o blant a phobl ifanc i archwilio hunaniaeth a’r synnwyr o le, a Straeon Gwefreiddiol – prosiect partneriaeth pedair blynedd wedi’i ariannu gan y Gronfa Loteri Fawr i gryfhau llais grwpiau amrywiol o bobl yn Sir Benfro.

Darparwyd gan spacetocreate Gwasanaeth ar gael yn Cardigan, Sir Benfro
The Coach House, Penrallt Ddu, Cardigan, SA43 3NN
01437 760375 guy@spacetocreate.org.uk https://www.spacetocreate.org.uk/

spacetocreate was co-founded in 2007 by Pip Lewis and Guy Norman to improve access and widen participation in the visual arts, primarily in Pembrokeshire.

Under the creative leadership of its founders, spacetocreate collab...