Neuadd Goffa Hendy Gwyn

Croeso i Neuadd Goffa Hendy Gwyn a saif ar ganol tref Hendygwyn-ar-Daf, gyda Pharc Dr. Owen o' r tu ôl iddi a' r Ysgol Gynradd gerllaw.

Mae' n le delfrydol gyda sbectrwm eang o ddigwyddiadau:
achlysuron codi arian, cyfarfodydd cyhoeddus, gweithgareddau, sioeau a phartïon penblwydd i blant ac oedolion. Mae' r neuadd ar gael i' w llogi saith niwrnod yr wythnos.

Mae Hendygwyn-ar-Daf ar ffin Sir Gaerfyrddin ac felly mae' n ganolfan ddelfrydol i wasanaethu cymunedau cyfagos yn Sir Benfro a Cheredigion yn ogystal â Sir Gaerfyrddin. Amgylchynir y dref gan ardaloedd gwledig prydferth ond er hynny, mae' n agos iawn i' r A.40, y briffordd sy' n cysylltu Llundain â' r Iwerddon. Mae' n le canolog iawn - 20 munud gyda char o Gaerfyrddin (i' r Dwyrain), 30 munud o Hwlffordd (i' r Gorllewin), 40 munud o Aberteifi (i' r Gogledd) a 30 munud i Ddinbych y Pysgod (i' r De).

Mae arhosfan bws un funud o' r Neuadd a Gorsaf Reilffordd rhyw bedair munud o gerdded.

Adeiladwyd Neuadd Goffa Hendy Gwyn ym 1927 "i' w defnyddio' n wastadol fel man adloniant a chyfeillach gymdeithasol er budd trigolion tref Hendygwyn-ar-Daf yn ddiwahaniaeth o enwad na gwleidyddiaeth". Yn y Neuadd mae cofeb gydag enwau' r rhai a gollodd eu bywyd yn y ddwy Ryfel Byd a chynhelir gwasanaeth yno' n flynyddol ar Ddydd y Cofio.

Mae' r Neuadd yn Elusen Gofrestredig (rhif 518760) yn gweithredu fel busnes ‘nid er elw' ac yn dibynnu' n gyfangwbl ar dderbyniadau hunangynhyrchiol.

Gallwch weld y costau llogi a phryd mae' r Neuadd ar gael, darllen yr amodau a dadlwytho ffurflen logi drwy ddefnyddio' r safle hwn.

Darparwyd gan Neuadd Goffa Hendy Gwyn Gwasanaeth ar gael yn Whitland, Sir Gaerfyrddin Cymuned Addysg a hyfforddiant Chwaraeon a hamdden
Whitland Memorial Hall, Market Street, Whitland, SA34 0QB
info@whitlandmemorialhall.org.uk http://www.whitlandmemorialhall.co.uk

The Hall is an ideal place for a whole spectrum of functions; fund-raising events, public meetings, activities, shows, anniversary and birthday parties for adults and children. The Hall is available for hire seven days a week...