Hyfforddiant Bi

Darparwyd gan
Bi Cymru

Darparwyd gan
Bi Cymru

Cyswllt

Text only: 07982308812 (please note we are run by volunteers, so this is not a staffed phone line)

Bi Cymru yw'r grŵp cefnogaeth gymdeithasol Gymru-gyfan ar gyfer pobl ddeurywiol a'r rhai sy'n meddwl y gallan nhw fod yn bi.

Yn ogystal â chefnogi a hyrwyddo grwpiau lleol, mynd i'r afael ag arwahanrwydd cymdeithasol, herio biffobia ac ymgyrchu ar faterion deurywiol, rydym yn darparu hyfforddiant ar faterion deurywiol a chynhwysiant deurywiol ym maes polisi, arferion, gweithdrefnau a sicrhau bod hyn yn digwydd mewn gwirionedd, i ystod eang o gyrff.

Mae ein hyfforddiant i gyd yn seiliedig ar drafodaethau ac ymchwil gan bobl ddeurywiol.
Rydym yn cynnig hyfforddiant pwrpasol ar gyfer anghenion eich corff neu fudiad, gan gynnwys:
• Cynhwysiant deurywiol mewn gweithleoedd llai
• Sut i ddod o hyd i bobl bi ac ymgysylltu â nhw
• Pa faterion sy'n effeithio ar bobl bi, a sut i fynd i'r afael â nhw
• Diffinio deurywioldeb a chamsyniadau cyffredin
• Sicrhau bod eich sefydliad yn bi-gynhwysol
• Mynd i'r afael â biffobia

Gallwn gynnig hyfforddiant yn unrhyw le yng Nghymru, ar yr amod eich bod yn talu ein costau teithio a'n ffioedd. Caiff pob arian a godir trwy hyfforddi ei fuddsoddi yng ngweithgareddau Bi Cymru.

Mae'r ffioedd yn cynnwys 2 awr o weithdy neu hyfforddiant. Byddwn yn hyfforddi hyd at 20 o bobl mewn grŵp am y ffioedd isod.

Ffioedd
£300 Sector Preifat £150 Undeb Llafur neu debyg
£200 Sector Cyhoeddus £50 Elusen neu sector gwirfoddol
BiCymru@yahoo.co.uk www.BiCymru.org.uk

Amseroedd agor

Booking only. Please contact us by email to arrange a training session and for a quotation, including travel

Dewisiadau Mynediad

Galw heibio

Hunangyfeirio

Atgyfeiriad gan asiantaeth

Trwy drefnu apwyntiad yn unig