Bi Cymru

Cyswllt

Text only: 07982308812 (please note we are run by volunteers, so this is not a staffed phone line)

Y rhwydwaith Cymru gyfan ar gyfer pobl ddeurywiol a'r rhai sy'n meddwl eu bod nhw'n bi Mudiad aelodaeth dielw sy'n cael ei redeg gan bobl ddeurywiol yng Nghymru. Mudiad hollol wirfoddol ydym ni ac rydym yn ddibynnol ar roddion ac incwm o gyflwyno hyfforddiant ar ddeurywioldeb a materion bi yng Nghymru. Caiff yr incwm ei fuddsoddi mewn cefnogaeth a gweithgareddau cymunedol.
Mae Bi Cymru'n croesawu unrhyw un sy'n teimlo atyniad rhywiol at fwy nag un rhywedd, waeth sut maen nhw'n eu diffinio'u hunain na pha air maen nhw'n ei ddefnyddio. Mae'r rhan fwyaf o gyrddau a digwyddiadau cymdeithasol yn agored i bawb sy'n gefnogol i bobl bi, waeth beth fo'u rhywioldeb.
Nodau
1. Darparu rhwydwaith Cymru-gyfan i ddod â phobl ddeurywiol a phobl sy'n meddwl efallai'u bod nhw'n bi at ei gilydd, gan fynd i'r afael ag ynysiad cymdeithasol a darparu cefnogaeth cymheiriaid.
2. Herio biffobia a hyrwyddo cynhwysiant deurywiol trwy ddarparu hyfforddiant, rhwydwaith ymgynghori rhwng pobl ddeurywiol a phenderfynwyr yng Nghymru a rhedeg ymgyrchoedd ar faterion bi.
3. Hyrwyddo, meithrin a chefnogi grwpiau bi lleol ac annibynnol yng Nghymru
BiFest Cymru
Digwyddiad blynyddol sy'n agored i bawb, gan gynnwys teuluoedd, ffrindiau, cynghreiriaid, cefnogwyr a phobl ddeurywiol. Diwrnod o weithdai ar wahanol bynciau megis: cyflwyniad i ddeurywioldeb; hwyl a gemau; troseddau casineb biffobig. Cymdeithasu, man crefftau a gwybodaeth gymunedol Noson gymdeithasol gyda cherddoriaeth fyw hefyd fel arfer

Darparwyd gan Bi Cymru Gwasanaeth ar gael yn Swansea, Abertawe Cymuned
Postal address: Bi Wales, C/o The Swansea Drop-in Centre, 71 High Street, Swansea, SA1 1LN
Text only: 07982308812 (please note we are run by volunteers, so this is not a staffed phone line) bicymru@yahoo.co.uk http://www.bicymru.org.uk

BiFest Wales
Annual event open to everyone, including families, friends, allies, supporters and bisexual people. A day of workshops on various topics such as: introduction to bisexuality; games; biphobic hate crime. Social,...

Darparwyd gan Bi Cymru Gwasanaeth ar gael yn Swansea, Abertawe Cymuned Addysg a hyfforddiant
Postal address: Bi Wales, C/o The Swansea Drop-in Centre, 71 High Street, Swansea, SA1 1LN
Text only: 07982308812 (please note we are run by volunteers, so this is not a staffed phone line) bicymru@yahoo.co.uk http://www.bicymru.org.uk

Bi Cymru yw'r grŵp cefnogaeth gymdeithasol Gymru-gyfan ar gyfer pobl ddeurywiol a'r rhai sy'n meddwl y gallan nhw fod yn bi.

Yn ogystal â chefnogi a hyrwyddo grwpiau lleol, mynd i'r afael ag arwahanrwydd cymdeithasol, heri...