Linc Cymunedol Môn

Darparwyd gan
Medrwn Môn

Darparwyd gan
Medrwn Môn

Cyswllt

01248 725745

Mae Linc Cymunedol Môn yn rhedeg gwasanaeth Presgreibio Cymdeithasol ar gyfer unigolion dros 18 oed a theuluoedd sy’n byw ar Ynys Môn. Gall y gwasanaeth eich helpu chi os ydych:

• Yn teimlo’n ynysig yn gymdeithasol
• Eisiau gwella eich iechyd corfforol
• Yn dioddef o ddiffyg hyder
• Angen dod o hyd i rhywfaint o gefnogaeth ymarferol a gwybodaeth er mwyn gwella
eich sefyllfa.

Bydd ein tîm o Gydlynwyr Asedau Lleol yn:

• Cydweithio hefo chi i adnabod gweithgareddau a gwasanaethau cymunedol yn eich
ardal sy’n addas ar gyfer eich diddordebau.
• Cynnig cefnogaeth i chi fynychu’r gweithgareddau a’r gwasanaethau yma.
• Eich helpu i wella eich lles, hyder ac annibyniaeth.

Sut ydw i’n cael fy nghyfeirio?

Fe all eich Meddyg Teulu awgrymu eich bod yn cael eich cyfeirio ar ôl adnabod y byddai cael rhywfaint o gymorth ychwanegol yn gallu gwella eich iechyd a’ch lles.
Fe allwch CHI hefyd gysylltu â Linc Cymunedol Môn eich hun, neu ofyn i aelod o’r teulu neu ffrind i gysylltu â ni:-

01248: 725745 linc@medrwnmon.org