Mae GIG Cymru yn darparu mynediad am ddim i bobl yng Nghymru at raglenni therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT) ar-lein SilverCloud®, sydd wedi'u cynllunio i helpu pobl rheoli eu hiechyd meddwl a'u lles.
Ceisiwch gymorth gyda gorbryder, iselder, straen, OCD, cwsg, alcohol, pryderon ariannol, gorbryder iechyd, delwedd y corff a mwy. Mae cymorth ar gael i oedolion, myfyrwyr a phobl ifanc, yn ogystal â chymorth i rieni a gofalwyr sy'n cefnogi plant a phobl ifanc sydd â gorbryder.
Gall pobl 16 oed a hŷn gofrestru heb atgyfeiriad gan feddyg teulu a chyrchu rhaglen o unrhyw ddyfais ar-lein unrhyw le, unrhyw bryd. Mae defnyddwyr yn dewis un rhaglen iechyd meddwl / lles ar-lein i'w chwblhau ar eu cyflymder eu hunain dros 12 wythnos.
Mae pob rhaglen yn cynnwys gweithgareddau ac offer rhyngweithiol i helpu defnyddwyr i ddatblygu sgiliau i reoli eu lles seicolegol gyda mwy o hyder.
Mae gennym hefyd lwybrau atgyfeirio ar waith ar gyfer pobl ifanc ac oedolion trwy adrannau ym mhob un o saith bwrdd iechyd Cymru, gan gynnwys gofal amenedigol, iechyd meddwl plant a'r glasoed (CAMHS), gofal sylfaenol a seicoleg plant. Os ydych chi eisoes yn derbyn gofal, gofynnwch i'ch ymarferydd am atgyfeiriad at SilverCloud.
Mae SilverCloud® ar gael ym mhob rhanbarth o Gymru: Mae'r gwasanaeth CBT ar-lein yn cael ei redeg a'i reoli gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys ar ran GIG Cymru.
Cofrestrwch: https://nhswales.silvercloudhealth.com/signup/
Dysgu mwy: https://biap.gig.cymru/gwasanaethau/gwasanaethau-iechyd-meddwl-oedolion-a-phobl-hyn/tyg-ar-lein-silvercloud/
Os oes angen unrhyw help arnoch neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, mae modd cysylltu â'r Tîm CBT Ar-lein o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9yb a 5yh ar silver.cloud@wales.nhs.uk. Noder bod rhaglenni SilverCloud ar gael 24/7 o unrhyw le, unrhyw bryd.
Galw heibio
Hunangyfeirio
Atgyfeiriad gan asiantaeth
Trwy drefnu apwyntiad yn unig