Fel bwrdd iechyd gwledig, rydym yn darparu cymaint o wasanaethau ag y bo modd yn lleol, trwy Feddygon Teulu a gwasanaethau gofal sylfaenol eraill, ysbytai cymunedol a gwasanaethau cymunedol.
Bob blwyddyn rydym yn derbyn cyllideb gan Lywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaethau iechyd a gwella iechyd i 133,000 o bobl sy'n byw ym Mhowys - sir fawr, gwledig o 2000 milltir sgwâr, tua chwarter màs tir Cymru.
Mae natur wledig iawn Powys yn golygu bod mwyafrif y gwasanaethau lleol yn cael eu darparu'n lleol, trwy feddygon teulu a gwasanaethau gofal sylfaenol eraill, ysbytai cymunedol a gwasanaethau cymunedol. Ond gydag ardal mor denau ei phoblogaeth nid oes gennym y màs critigol o bobl yn lleol i ddarparu Ysbyty Cyffredinol Dosbarth o fewn Powys. Felly, rydym yn talu i drigolion Powys dderbyn gwasanaethau ysbyty arbenigol mewn ysbytai y tu allan i'r sir yng Nghymru a Lloegr.
Rydym bob amser yn ymdrechu i ddod â chymaint o wasanaethau â phosibl yn ôl i Bowys, gan gynnwys asesiadau a chamau dilynol ar ôl triniaeth.
Mae GIG Cymru yn darparu mynediad am ddim i bobl yng Nghymru at raglenni therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT) ar-lein SilverCloud®, sydd wedi'u cynllunio i helpu pobl rheoli eu hiechyd meddwl a'u lles.
Ceisiwch gymorth gyda...