Mae Cynllun Tro Da Seiriol (CTDS) wedi'i sefydlu gan Gynghrair Seiriol i roi help i bobl leol sy'n byw yn Ward Seiriol, Ynys Môn. Darperir y gwasanaethau gan wirfoddolwyr. Mae CTDS yno i unrhyw berson sy'n byw yn ardal Seiriol sydd angen help llaw i gyflawni tasgau pob dydd oherwydd salwch, analluogrwydd, neu angen arall.
Pwrpas CTDS yw diwallu anghenion y gymuned trwy ddarparu ystod o wasanaethau i bobl sy'n byw yn ardal Seiriol a allai fod angen cefnogaeth o'r fath. Mae CTDS yn hapus i ystyried darparu help i unrhyw berson o unrhyw oedran, teuluoedd, neu grwpiau o unigolion, yn dibynnu ar eu hanghenion ac argaeledd gwirfoddolwyr. Mae'r gwasanaethau a ddarperir gan CTDS yn seiliedig ar yr egwyddor fod aelodau o gymunedau Seiriol yn gwneud “tro da” i helpu unigolion neu grwpiau ag anghenion a nodwyd. Bydd y troeon da hyn yn cynnwys y canlynol:
- Darparu cludiant fel mynd â chleientiaid i'w meddygfa, ysbyty neu apwyntiadau eraill
- Casglu presgripsiynau o'r fferyllfa
- Cefnogi pobl i gael mynediad at ddigwyddiadau cymdeithasol cymunedol, dosbarthiadau ymarfer corff, clybiau, sgyrsiau, grwpiau diddordeb ac ati
- Help gyda cherdded cŵn a gofalu am anifeiliaid anwes eraill ar adegau o angen
- Cefnogi unigolion i ddatblygu sgiliau digidol fel mynediad i'r rhyngrwyd a chyfryngau cymdeithasol, a thrwy hynny atal unigrwydd
Telephone line open Monday - Friday: 9am - 5pm (Services delivered 7 days a week as required)
Galw heibio
Hunangyfeirio
Atgyfeiriad gan asiantaeth
Trwy drefnu apwyntiad yn unig