Age Connects Morgannwg

Rydym yn cynnig ystod eang o wasanaethau DI-DÂL i helpu pobl hŷn i barhau i fyw yn eu cartrefi eu hunain a gwneud bywyd mor hawdd ag sydd bosibl iddynt. Mae ein tîm o staff a gwirfoddolwyr ymroddedig yn cynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth ar amrywiaeth o faterion megis gofal, materion cyfreithiol, iechyd, tai, incwm a budd-daliadau, prynwriaeth, hamdden a gwaith. Rydym hefyd yn cynnig rhai gwasanaethau ‘taledig’ a all eich helpu i’ch cadw ar eich traed a’ch cynorthwyo yn eich cartref.

Cawn ein hariannu gan yr Awdurdodau Lleol ym mhob rhan o’n hardal fuddion i ddarparu ystod o wasanaethau Yn y Cartref a all helpu i adfer neu i gynnal eich annibyniaeth neu annibyniaeth cyfaill neu berthynas. Gall dychwelyd adref o'r ysbyty fod yn brofiad anodd iawn, hyd yn oed gyda chymorth teulu a ffrindiau. Gall ein Gwasanaeth Rhyddhau o’r Ysbyty eich helpu i hwyluso'r broses o ddychwelyd adref drwy gynnig cymorth wythnosol i fynd i siopa, i ymdopi â thasgau gwaith tŷ ac adennill hyder a sgiliau a fydd efallai wedi eu colli ar ôl cyfnod yn yr ysbyty. I lawer o bobl hŷn, gall profedigaeth neu salwch, neu hyd yn oed gwymp arwain at iselder, colli hyder a cholli annibyniaeth.

Gall ein Gwasanaethau Allgymorth Cymunedol a Chefnogaeth yn y Cartref ddarparu cymorth, anogaeth a chefnogaeth i rai sydd efallai yn cael trafferth i ymdopi â heriau sefyllfa newydd neu ddiagnosis, fel dementia. Ein nod yw helpu pobl hŷn i barhau i fyw yn eu cartrefi eu hunain cyhyd ag y dymunant a chyhyd ag sydd bosibl, drwy ddarparu cymorth un i un fel y gallant barhau i wneud y pethau maent yn eu mwynhau ac sy'n eu cadw'n iach ac yn annibynnol.

Gwirfoddoli

Ni allai gwirfoddoli gydag Age Connects fod yn haws! Dyma gyfle i roi eich amser i helpu i wneud rhywbeth defnyddiol. Ar y llaw arall byddwch yn cael y boddhad o helpu person hŷn neu helpu’r elusen gyda’i busnes. Nid oes angen unrhyw gymwysterau, dim ond ychydig o amser rhydd, calon fawr a digon o synnwyr digrifwch! Rydym yn rhoi’r hyfforddiant angenrheidiol ichi i ofalu eich bod yn dysgu ac yn tyfu i mewn i’ch rôl. Mae gwirfoddoli yn ffordd ardderchog o gyfarfod pobl newydd, dysgu sgiliau newydd, cael profiadau newydd a chael hwyl.

Gwasanaeth Torri Ewinedd
Mae ein Gwasanaeth Torri Ewinedd yn agoriad llygad i gannoedd o bobl hŷn bob blwyddyn. I lawer ohonynt mae cymalau poenus ac ewinedd traed caled sy’n rhy hir yn ei gwneud yn amhosibl bron i wisgo esgidiau a cherdded yn gyfforddus.
Diolch i sawl clinic cymunedol sy’n gweithredu ledled Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr mae ein staff sydd wedi eu hyfforddi’n arbennig yn cadw pobl ar eu traed a’u galluogi i grwydro’n ddi-boen gydag ewinedd wedi eu torri’n berffaith! Pe byddai ymweld ag un o’n clinigau yn anodd, gallwn ddod â’r gwasanaeth draw i’ch cartref.

Materion Ariannol
Mae ein Gwasanaeth Gwybodaeth a Chyngor cyfrinachol ac annibynnol yn cynnig ystod eang o wybodaeth a chyngor i helpu pobl i fyw yn annibynnol, i aros yn eu cartrefi eu hunain ac i wneud y defnydd gorau o’u hincwm.
Rydym eisiau eich helpu i dderbyn yr arian y mae gennych hawl iddo, felly mae ein Hymgynghorwyr Cwsmeriaid wedi'u hyfforddi'n drwyadl i ddarparu cyngor budd-daliadau lles o ansawdd uchel a chymorth ar Lwfans Gweini, Treth Gyngor/Budd-dal Tai, Cronfa Gymdeithasol, Taliad annibyniaeth Personol (PIP), Lwfans Gofalwr, Bathodyn Glas a Cheisiadau Credyd Pensiwn

Eiriolaeth Annibynnol
Weithiau, mae pobl yn cael anhawster i egluro eu hanghenion a'u dymuniadau i’w teulu ac i weithwyr proffesiynol. Mae ein Gwasanaeth Eiriolaeth Annibynnol yn bodoli ar gyfer pobl sydd angen cymorth ychwanegol i leisio eu barn a herio penderfyniadau a wneir sy’n effeithio ar eu bywydau. Os ydych yn teimlo nad oes neb yn gwrando ar eich hawliau a'ch dymuniadau neu os ydych yn pryderu bod person hŷn yn cael ei gam-drin yn ariannol, yn gorfforol, yn seicolegol neu'n rhywiol cysylltwch â ni, er mwyn inni roi terfyn ar hynny.
Os ydych yn poeni fod person hŷn yn cael ei esgeuluso neu fod rhywun yn manteisio arno cysylltwch â ni, er mwyn inni roi terfyn ar hynny.

Darparwyd gan Age Connects Morgannwg Gwasanaeth ar gael yn Pontypridd , Rhondda Cynon Tâf
5-7 Mill Street , , Pontypridd , CF37 2SN
01443 490650 information@acmorgannwg.org.uk https://www.ageconnectsmorgannwg.org.uk/

We offer a wide range of FREE services to help older people stay living in their own home and make life as easy as possible. Our dedicated staff and volunteer team offer independent and confidential information, advice and su...