Rydych chi'n Ofalwr os ydych chi'n gofalu am ffrind neu aelod o'r teulu sy’n sâl, yn fregus, yn anabl, yn byw â phroblemau iechyd meddwl neu broblemau yn sgil camddefnyddio cyffuriau neu alcohol ac sy’n methu ag ymdopi heb eich cefnogaeth.
Ymunwch â’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr AM DDIM i gael:
- Cylchgrawn y Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr yn rheolaidd (drwy ebost neu’r post)
- Gwybodaeth ddefnyddiol am bethau fel gwasanaethau, cymorth, deddfwriaeth ac ati
- Gwybodaeth am y Fforwm Gofalwyr sy’n cwrdd yn rheolaidd i roi cymorth, i rannu gwybodaeth ac i feithrin cyfeillgarwch
- Gwybodaeth am ddigwyddiadau lleol i Ofalwyr
- Gwybodaeth am gyrsiau hyfforddi perthnasol
- Gwybodaeth am ymgyngoriadau ar faterion lleol a chenedlaethol.
Cysylltwch â’r Uned Gofalwyr i ymuno â’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr:
Uned Gofalwyr
Cyngor Sir Ceredigion
Canolfan Rheidol
Rhodfa Padarn
Llanbadarn Fawr
Aberystwyth
SY23 3UE
Ffôn: 01970 633564
Ebost: unedgofalwyr@ceredigion.gov.uk
Gwefan: www.ceredigion.gov.uk/gofalwyr
You are a Carer if you are caring for a friend or family member due to illness, frailty, disability, mental health issue or an addiction who cannot cope without your support.
Join the FREE Carers Information Service to rec...